Crynodeb Chwarterol o Ystadegau'r Asiantaeth Cynnal Plant

Rhagfyr 2008


National Statistics logo

Cyhoeddir y cyhoeddiad hwn gan Ystadegau Cenedlaethol ar 28 Ionawr 2009 yn ôl trefniadau sydd wedi eu cymeradwyo gan Awdurdod Ystadegau’r DU.

Mae’r Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant, a sefydlwyd fel corff cyhoeddus anadrannol o dan y Ddeddf Cynhaliaeth Plant a Thaliadau Eraill 2008, yn gyfrifol am y system cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.

Cymerodd y Comisiwn y cyfrifoldeb am yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 1 Tachwedd 2008.

Mae’r cyhoeddiad hwn, a gynhyrchwyd gan Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth DWP ar ran y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant, yn cynnwys y tablau a'r dadansoddiadau diweddaraf ar gyfer dau gynllun cynhaliaeth plant statudol presennol y CSA.

Mae’r wybodaeth yn cwmpasu’r cyfnod cyn ac ar ôl i’r Comisiwn gymryd cyfrifoldeb am y CSA ar 1 Tachwedd 2008. Mae’r wybodaeth hefyd yn cwmpasu’r cyfnod cyn ac ar ôl gwaredu'r gofyn i rieni â gofal sy'n cael budd-daliadau orfod defnyddio’r CSA i gasglu neu drefnu taliadau cynhaliaeth. Roedd y newid, a ddaeth i rym ar 27 Hydref 2008, yn effeithio ar tua 400,000 o gleientiaid y CSA sydd bellach yn gallu dewis i wneud cytundeb teuluol ar gyfer cynhaliaeth gyda’r rhiant dibreswyl. Ceir Crynodebau Chwarterol o Ystadegau blaenorol ar wefan y DWP.

Darllenwch y cyhoeddiad cyntaf o Grynodeb Chwarterol o Ystadegau’r Asiantaeth Cynnal Plant.

Cynnwys

Tabl 1 Statws yr holl achosion mae'r Asiantaeth yn delio â hwy
Tabl 2.1 Derbyniadau'r cynllun presennol, gwaith wedi'i glirio a heb ei glirio (y ddau gynllun)
Tabl 2.2 Mathau o Gliriadau Cychwynnol
Tabl 2.3 Canlyniadau Cynhaliaeth Cychwynnol
Tabl 2.4 Rhesymau dros gau achosion
Tabl 2.5 Achosion a drosglwyddwyd
Tabl 2.6 Taliadau'r Cynllun Presennol, fesul mis trefniad talu
Tabl 3 Cliriadau'r Cynllun Presennol, fesul mis gwneud cais
Tabl 4 Oed Ceisiadau'r Cynllun Presennol pan gliriwyd, fesul mis y cliriwyd
Tabl 5 Oed Ceisiadau'r Cynllun Presennol heb eu clirio (y cynllun hyd yma)
Tabl 6 Statws yr Achosion a Aseswyd/Cyfrifwyd
Tabl 7.1 Cydymffurfiaeth Achos
Tabl 7.2 Canlyniadau Cynhaliaeth
Tabl 8.1 Cyfradd Casglu
Tabl 8.2 Achosion sy'n Cydymffurfio'n Llawn fel canran o’r holl Achosion sy'n Cydymffurfio
Tabl 9 Dull casglu: Defnydd
Tabl 10 Dull casglu: Cydymffurfiaeth
Tabl 11 Cydymffurfiaeth Ariannol
Tabl 12 Ôl-ddyledion a gasglwyd fel canran o Ôl-ddyledion Cronedig
Tabl 13.1 Canran o'r Achosion ble mae’r Rhiant â Gofal ar Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm) gyda chanlyniad cynhaliaeth positif
Tabl 13.2 Derbyniadau budd-dal ar gyfer rhieni â gofal a rhieni dibreswyl ar y Cynllun Presennol
Tabl 14 Taliad o'r Premiwm Cynhaliaeth Plant
Tabl 15 Atebolrwydd Cynhaliaeth Wythnosol, fesul Cynllun
Tabl 16 Perfformiad gwasanaethau ffôn
Tabl 17 Cywirdeb Cyfrifon ac Asesiadau Cynhaliaeth
Tabl 18 Apeliadau
Tabl 19.1 Staffio
Tabl 19.2 Staff yn gadael
Tabl 19.3 Absenoldeb Salwch
Tabl 19.4 Costau Gweinyddol
Tabl 19.5 Cynhaliaeth a Gasglwyd
Tabl 20 Achosion Clerigol
Tabl 21 Gweithgareddau Gorfodi
Tabl 22 Dyled
Tabl 23 Oedran y Rhiant Dibreswyl fesul oedran y Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Table 24 Rhyw'r Rhiant Dibreswyl a'r Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Tabl 25 Rhanbarth preswyl y Rhiant Dibreswyl fesul rhanbarth preswyl y Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Tabl 26 Pellter Byw Rhwng y Rhiant Dibreswyl a Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Tabl 27 Statws Cyflogaeth y Rhiant Dibreswyl: Rhagfyr 2008
Tabl 28 Nifer o blant sy'n cael cynhaliaeth neu gyda chytundeb cynhaliaeth uniongyrchol mewn grym
Tabl 29 Newidiadau mewn amgylchiadau i'r Cynllun Presennol: Derbyniadau, Cliriadau a gwaith heb ei glirio

Atodiad Awdurdod Lleol ac Etholaeth Seneddol

Tabl S1a Awdurdod Lleol y Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Tabl S1b Etholaethau Seneddol y Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Tabl S2a Ceisiadau heb eu clirio fesul Awdurdod Lleol Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Tabl S2b Ceisiadau heb eu clirio fesul Etholaethau Seneddol Rhiant/Person â gofal: Rhagfyr 2008
Tabl S3a Cydymffurfiaeth Achosion y Cynllun Presennol fesul Awdurdod Lleol y Rhiant Dibreswyl: Rhagfyr 2008
Tabl S3b Cydymffurfiaeth Achosion y Cynllun Presennol fesul Etholaeth Seneddol y Rhiant Dibreswyl: Rhagfyr 2008
Tabl S4a Canlyniadau Cynhaliaeth y Cynllun Presennol fesul Awdurdod Lleol y Rhiant Dibreswyl: Rhagfyr 2008
Tabl S4b Canlyniadau Cynhaliaeth y Cynllun Presennol fesul Etholaeth Seneddol y Rhiant Dibreswyl: Rhagfyr 2008

Tablau

Tablau CSA ar ffurf Microsoft Excel (1.2Mb)

Tablau atodol ar ffurf Microsoft Excel (500kb)

Rhyddhau cyn cyhoeddi

Mae Gorchymyn Rhyddhau Ystadegau Swyddogol cyn Cyhoeddiad 2008 yn gofyn i bob adran gyhoeddi teitlau swyddi ac enwau’r cyrff perthnasol ar gyfer y rhai hynny gaiff weld ystadegyn swyddogol cyn ei gyhoeddi. Gallwch weld pwy dderbyniodd yr ystadegau cyn eu cyhoeddi ar gyfer Crynodeb Chwarterol y Comisiwn o Ystadegau’r Asiantaeth Cynnal Plant.