Crynodeb Chwarterol Ystadegaur Asiantaeth Cynnal Plant

Ymgynghoriad

Ar hyn o bryd, maer Comisiwn mewn ymgynghoriad am y cynigion i ddiwygior Crynodeb Chwarterol o Ystadegau. Gallwch edrych ar y cynigion, a gweld sut i ymateb iddynt drwy edrych ar y papur ymgynghori.

Maer Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn gyfrifol am y system cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr. Cymerodd y Comisiwn y cyfrifoldeb am yr Asiantaeth Cynnal Plant (y CSA) oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar 1 Tachwedd 2008.

Gellir gweld y Crynodebau Chwarterol o Ystadegaur Asiantaeth Cynnal Plant drwyr cysylltiadau isod. Maer cyhoeddiadau hyn, a ddarperir ar gyfer y Comisiwn gan Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth y DWP, yn cynnwys y tablau mwyaf diweddar a dadansoddiadau or ddau gynllun statudol presennol a weithredir gan y CSA.

Maer wybodaeth yn cwmpasur cyfnod cyn ac ar ôl ir Comisiwn gymryd cyfrifoldeb dros y CSA. Maer wybodaeth hefyd yn cwmpasur cyfnod cyn ac ar ôl gwaredur gofyn i rieni Ċ gofal syn cael budd-dal orfod defnyddior CSA i gasglu neu drefnu taliadau cynhaliaeth. Roedd y newid hwn a ddaeth i rym ar 27ain Hydref 2008, yn effeithio ar oddeutu 400,000 o gleientiaid y CSA, sydd bellach yn gallu dewis i wneud cytundeb teuluol gyda'r rhiant dibreswyl ar gyfer cynhaliaeth.

Gellir gweld Crynodebau Chwarterol o Ystadegau blaenorol ar wefan y DWP.

Maer Crynodebau Chwarterol o Ystadegaur Asiantaeth Cynnal Plant ar gael drwyr cysylltiadau isod.