Polisi preifatrwydd

Mae'r dudalen hon yn egluro ein polisi preifatrwydd a sut rydym yn defnyddio a diogelu gwybodaeth bersonol.

Pa wybodaeth fyddwn yn ei chasglu gan ymwelwyr i'r wefan?

Byddwn yn casglu dau fath o wybodaeth gan ymwelwyr i'r wefan: adborth (trwy e-bost gan ymwelwyr) a gwybodaeth ar ddefnydd o'r wefan o'r ffeiliau log.

Ffeiliau log

Mae ffeiliau log yn ein galluogi i gofnodi'r defnydd o'r wefan a wneir gan ymwelwyr. Nid yw'r ffeiliau log yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio er mwyn canfod pwy ydych. Defnyddir y wybodaeth hon i wneud newidiadau i osodiad y wefan ac i'r wybodaeth a gynhwysir ynddi.

Adborth

Croesawn eich sylwadau am y wefan hon. Gallwch roi sylwadau trwy ein ffurflen gyswllt. Unwaith y byddwn wedi anfon ymateb atoch, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges fel cyfeirnod ac at ddibenion monitro.

Top y dudalen

Cookies

"Cookies" yw'r enw ar ddarnau o ddata a gaiff eu creu yn aml wrth i chi ymweld â gwefan, a chânt eu cadw yn y cyfeiriadur "cookies" ar eich cyfrifiadur.

Nid yw'r cookies a ddefnyddiwyd gennym yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio er mwyn canfod pwy ydych. Gallwch osod eich cyfrifiadur i dderbyn pob cookie, neu i'ch rhybuddio pan fydd cookie yn cael ei ddefnyddio, neu i beidio derbyn cookie ar unrhyw adeg.

Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant a'r Ddeddf Diogelu Data

Mae'r Comisiwn yn deall eich pryderon am gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol.

Mae gan y Comisiwn rwymedigaeth i sicrhau bod gan gleientiaid ddigon o wybodaeth i ddeall yn llawn sut caiff eu cynhaliaeth plant ei hasesu, ei chasglu a'i gorfodi ac i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol nad yw’n hanfodol i'r ddealltwriaeth honno.

Am fwy o wybodaeth am ddefnydd Data’r Comisiwn, ysgrifennwch i'r :

Data Protection Unit
Alnwick House, Room BP6002
Benton Park View, Benton Park Road
Longbenton, Newcastle upon Tyne
NE98 1YX

Ceir mwy o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Datguddio gwybodaeth

Lle bo angen datguddiad o wybodaeth yn ôl y Ddeddfwriaeth Cynnal Plant ni fydd y datguddiad hwnnw yn torri ar y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Dyma fydd yr achos hyd yn oed os bydd y cleient yn gwrthwynebu i'w gwybodaeth bersonol gael ei datguddio neu os na fyddant wedi darparu unrhyw ganiatâd penodol i ddatguddio'r wybodaeth.

Er enghraifft, mae Rheoliad 9A o'r Rheoliadau Cynnal Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datguddiad) 1992 yn caniatáu'r datguddiad o wybodaeth a roddir gan un parti i'r llall o dan amgylchiadau penodol.

Mae adran 35 o'r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn caniatáu'r datguddiad o wybodaeth mewn unrhyw achos lle bo angen y datguddiad drwy neu o dan ymddeddfiad, neu yn ôl unrhyw reol o'r gyfraith neu drwy orchymyn llys.

Os byddwch am gael gwybod mwy am ba wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth edrychwch ar y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn wedi'i ddiweddaru ar y dudalen hon. Trwy adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd gellir sicrhau y byddwch wastad yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y gallwn ei rhannu gyda phartïon eraill.

Top y dudalen