Trefniadau ar gyfer talu drwy’r post yn ystod anghydfod y Post Brenhinol

Y diweddaraf am Streic y Post

Beth sy’n digwydd gyda streic y post?

Mae gweithwyr y Post Brenhinol wedi cadarnhau y byddant yn mynd ar streic ar yr 22ain a’r 23ain o fis Hydref. Bydd hyn yn tarfu ar y gwasanaeth post ledled y wlad.

Pa effaith gaiff y streic arnaf fi?

Os ydych yn anfon unrhyw beth atom drwy’r post neu’n disgwyl cael rhywbeth gennym drwy’r post, yna mae’n debygol y bydd oedi. Ni fydd y streic yn effeithio arnoch os ydych yn cael taliadau drwy Drosglwyddiad Credyd Awtomatig Unigol ac ein bod yn cael yr arian drwy ddull electronig.

Sut allaf osgoi cael fy effeithio gan unrhyw gamau tebyg yn y dyfodol?

Y ffordd leiaf dibynadwy i dalu neu i gael arian ar gyfer eich plant yw gyda siec. Os ydych yn defnyddio sieciau ar hyn o bryd, efallai y byddwch am ystyried newid i ddull gwell.

Anfon arian i’r CSA

Gallwch newid er mwyn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, Credyd Giro i’r Banc, talu i mewn i’n cyfrif casglu yn y banc (BHOCA) neu drwy ddefnyddio slip talu i mewn yn y banc sydd wedi ei argraffu’n barod gennym ni.

Mae’r buddiannau yn cynnwys:

  • Arbed arian postio
  • Arbed amser drwy beidio ysgrifennu siec
  • Mae’n fwy diogel
  • Mae’n ffordd fwy dibynadwy o gael arian ar gyfer eich plant

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch achos os ydych am newid i ddull talu arall.

Os nad oes gennych gyfrif banc, gallwch dalu mewn Swyddfa Bost gan ddefnyddio slip talu Trans Cash. Byddwch angen y wybodaeth ganlynol:

  • Enw’r cyfrif: CSA Client Funds
  • Cod didoli 40 34 18
  • Rhif y cyfrif: 41775448

Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn rhoi eich rhif cyfeirnod CSA.

Cael arian gan y CSA

Os yn bosibl, gallech newid er mwyn cael eich talu yn syth i’ch cyfrif banc drwy Drosglwyddiad Credyd Awtomatig.

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch achos os hoffech newid sut cewch yr arian ar gyfer eich plant.

Beth fydd yn digwydd os bydd y streic yn parhau am fwy nag ychydig ddyddiau?

Os bydd y post yn mynd ar streic genedlaethol eto, a bod hynny’n parhau am amser, yna efallai y byddwn yn defnyddio dulliau eraill i gael eich taliad atoch. Os bydd hynny’n digwydd, byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth ar y wefan hon.