Newyddion
Mwy o blant nag erioed yn elwa o gynhaliaeth plant.
29 Gorffennaf 2009
Mae bron i 794,000 o blant yn elwa gan fod yr Asiantaeth Cynnal Plant wedi casglu neu drefnu £1,136 miliwn mewn cynhaliaeth plant ledled Prydain Fawr dros y deuddeg mis diwethaf.
Mae'r Ystadegau Cenedlaethol a rhyddhawyd heddiw yn dangos bod y CSA, rhwng Gorffennaf 2008 a Mehefin 2009, wedi parhau i adennill cynhaliaeth plant oedd heb ei thalu, gydag ôl-ddyledion o £157 miliwn wedi eu casglu ym Mhrydain Fawr y llynedd.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos:
- Yn y chwarter hyd at ddiwedd Mehefin 2009, roedd 793,900 o blant yn elwa o gynhaliaeth trwy'r gwasanaeth cynhaliaeth statudol. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 14,100 o blant i gymharu â'r tri mis blaenorol ym Mawrth 2009
- Llwyddodd yr Asiantaeth Cynnal Plant i gasglu neu drefnu £1,136 miliwn mewn cynhaliaeth plant yn y flwyddyn hyd at ddiwedd Mehefin 2009, y swm mwyaf erioed a chynnydd o £4.4m ar y 12 mis hyd at Fawrth 2009
- Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant wedi cynyddun sylweddol y nifer o rieni sy'n talu am eu plant. Yn y chwarter yn dod i ben ym Mehefin 2009, yn 72.3% o'r achosion ble mae atebolrwydd am gynhaliaeth, gwnaeth rhieni dibreswyl daliadau trwy wasanaeth casglu'r Asiantaeth Cynnal Plant neu drwy drefniad Cynhaliaeth Uniongyrchol. Mae hyn yn gynnydd o 1.8% o 70.5% ym Mawrth 2009
- Mae cleientiaid yn cael gwasanaeth sy'n fwy effeithiol, gydag 84% o geisiadau newydd yn cael eu clirio o fewn 12 wythnos a'r Asiantaeth Cynnal Plant yn ateb 99% o alwadau ffôn sydd ar gael i'w hateb, gydag amser aros o 8 eiliad ar gyfartaledd
meddai'r Comisiynydd Cynhaliaeth Plant, Stephen Geraghty.
Mae'r gwelliannau cyson i gynhaliaeth plant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ledled Prydain Fawr. Mewn dim ond tri mis hyd at Fehefin 2009, roedd 11,100 o deuluoedd ychwanegol wedi elwa o gynhaliaeth.
Mae'r newidiadau rydym yn eu gwneud yn parhau i greu sylfaen gadarn i waith y Comisiwn wrth i ni symud tuag at system cynhaliaeth plant newydd, fydd yn rhoi mwy o ddewis nag erioed er mwyn gweddu orau i amgylchiadau penodol pob rhiant.
Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant sydd nawr yn gyfrifol am yr Asiantaeth Cynnal Plant, syn datblygu cynllun cynhaliaeth gwbl newydd i ddisodli dau gynllun yr Asiantaeth Cynnal Plant o 2011 ymlaen.
