Newyddion
Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn dewis system TG newydd ar gyfer cynllun cynhaliaeth y dyfodol
07 Ebrill 2009
Mae'r cynllun cynhaliaeth plant newydd fydd yn disodli'r ddau gynllun a ddarperir ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant wedi cymryd cam pwysig ymlaen.
Apwyntiwyd cyflenwyr i ddarparu'r system gyfrifiadurol fydd yn tanategu cynllun 'y dyfodol' sydd nawr yn cael ei ddatblygu gan y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant.
Gyda'r nod o ddarparu gwasanaethau gwell i gleientiaid a mwy o werth am arian i'r trethdalwr, mae'r Comisiwn wedi penderfynu defnyddio pecynnau meddalwedd 'parod' masnachol a ddefnyddir yn barod mewn masnach a diwydiant.
Wedi dysgu gwersi o'r gorffennol, ni fyddwn yn ceisio ail osod hen lwybrau ac yn archebu system TG unigol wedi ei hadeiladu i bwrpas,
meddai'r Comisiynydd Cynhaliaeth Plant, Stephen Geraghty:
Nid yw casglu a thalu cynhaliaeth plant yn annhebyg i drafodion a berfformir miliynau o weithiau yn ystod y dydd gan sefydliadau ariannol ledled y byd. Rydym am fanteisio ar yr arbenigedd technegol hwn a chynnig y math o wasanaeth a ddisgwylir gan gleientiaid cynhaliaeth plant y dyfodol.
Golyga hyn y byddwn yn eu galluogi i gael gwybodaeth well am eu hachos; yn bennaf, faint sy'n ddyledus ganddynt neu faint ddylent ddisgwyl ei gael. Os byddant yn dymuno, dylent allu cael gwybodaeth am eu cyfrif ar y we a chael hysbysiadau diweddaru trwy e-bost neu negeseuon testun.
Roedd llawer o'r cwynion yn erbyn yr hen Asiantaeth Cynnal Plant o ganlyniad i gyfyngiadau ei systemau TG. Er ein bod wedi gwneud cynnydd da wrth wella'r systemau hyn ers 2006, mae'n hanfodol na fydd problemau TG yn gwrthdynnu oddi wrth dyletswyddau rhieni i ddarparu'n ariannol am eu plant.
Yn dilyn proses asesu gofalus, dewisodd y Comisiwn Tata Consultancy Services (TCS) fel integreiddwr ei system. Rôl TCS fydd i integreiddio nifer o ddatrysiadau sydd wedi profi yn llwyddiannus er mwyn cefnogi 'cynllun y dyfodol' gan gynnwys; rheoli achosion, asesu achosion a chyfrifo asesiadau, awtomeiddio amserlenni talu, rheoli arian ac ôl-ddyledion a gorfodi.
Bydd cynnyrch o ran meddalwedd yn cynnwys system rheoli perthnasau cwsmeriaid Oracle Siebel a chynnyrch bancio BaNCS TCS. Caiff cynnyrch meddalwedd eraill eu darparu gan Experian, Genysys, IBM ac Oracle.
Wrth werthuso nifer o gynigion cystadleuol, ystyriodd y Comisiwn ansawdd y datrysiadau technegol, gwerth am arian a dyrannu risg rhwng y partïon.
