Y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn creu tri chant o swyddi newydd yn eu pencadlys yn Leeds

Bydd y corff cyhoeddus newydd sy'n gyfrifol am gynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr wedi ei leoli yn Leeds. Bydd tua thri chant o swyddi newydd yn cael eu creu ym mhencadlys y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant.

Cymerodd y Comisiwn y cyfrifoldeb am reoli'r Asiantaeth Cynnal Plant a'i gweithlu o naw mil oddi ar yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhachwedd 2008. Hefyd, maen gyfrifol am hybu'r cyfrifoldeb ariannol tuag at blant a darparu'r gwasanaeth gwybodaeth a chymorth newydd i rieni sydd wedi gwahanu, sef Opsiynau Cynhaliaeth Plant.

Bydd staff y Comisiwn yn Leeds yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu a chyflwynor cynllun cynhaliaeth plant gwbl newydd fydd yn disodli'r ddau gynllun, a ddarperir ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant, o 2011 ymlaen.

Roedd Leeds yn un o nifer o ddinasoedd a ystyriwyd ar gyfer ein pencadlys newydd,

meddai Cadeirydd y Comisiwn, Janet Paraskeva.

Y prif ffactor wrth benderfynu ar Leeds oedd y lefel uchel o sgiliau perthnasol yn y gweithlu yng Ngorllewin Swydd Efrog - yn enwedig y rhai hynny yn y gwasanaethau ariannol: Yn y pen draw, rydym yn sefydliad ariannol, ond serch hynny, yn un sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ymateb i fater dynol.

Ar hyn o bryd mae llai na 50 y cant o blant o deuluoedd sydd wedi gwahanu yn elwa o drefniadau cynhaliaeth effeithiol, p'un a drwy wasanaeth a ddarperir gan yr Asiantaeth Cynnal Plant neu gytundeb teuluol. Nod y Comisiwn yw cael cynnydd sylweddol ir canran hwnnw ac er mwyn ein helpu, rydym yn anelu at recriwtio'r bobl gorau a mwyaf disglair o ardal Leeds.

Mae recriwtio ar gyfer y swyddi newydd hyn wedi dechrau yn barod. Mae'r swyddi sydd ar gael yn cynnwys swyddogaethau gweinyddol a phroffesiynol mewn meysydd fel technoleg gwybodaeth, adnoddau dynol a rheoli ariannol.

Sefydlwyd y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant gan y Ddeddf Cynnal Plant 2008 a ddaeth a newid sylweddol i system cynhaliaeth plant Prydain Fawr.

Yn ganolog i ddiwygiadaur Llywodraeth mae ymestyn y dewis syn galluogi bob rhiant i wneud trefniadau cynhaliaeth plant sy'n gweddu orau iw hamgylchiadau personol. Pan na allant wneud cytundeb teuluol, bydd system y wladwriaeth, a ddarperir ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant, dal ar gael gydag amrywiaeth o bwerau gorfodi cadarn a theg.