Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth ddiduedd a chymorth yw Opsiynau Cynhaliaeth Plant. Mae'r Comisiwn yn cynnig y gwasanaeth hwn i helpu rhieni ddeall yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant. Anelwn i sicrhau bod pob rhiant yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad ynglŷn â chynhaliaeth plant i weithredu arno.

Mae'r gwasanaeth a ddatblygwyd gyda chyfraniadau gan fudd-ddeiliaid, ar gael i warcheidwaid, perthnasau, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol cynhaliaeth plant, a gellir ei ddefnyddio'n anhysbys yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Darperir gwybodaeth ddiduedd gan Opsiynau Cynhaliaeth Plant drwy linell gymorth cenedlaethol, gwefan a gwasanaeth wyneb yn wyneb i'r sawl sydd mewn angen cael help a chefnogaeth fwy personol

Mae Opsiynau Cynhaliaeth Plant hefyd yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar faterion eraill y gall rhieni eu hwynebu wrth wneud trefniadau cynhaliaeth, fel pryderon am eu cartref, materion cyfreithiol neu ariannol. Gall y gwasanaeth hwn gyfeirio pobl at gyrff sy'n darparu cyngor a chymorth arbenigol.

Mae'r Comisiwn wedi bod yn gweithio'n agos gyda nifer o gyrff i ddatblygur gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant. Maer rhain yn cynnwys y Centre for Separated Families, One Parent Families/Gingerbread a Families Need Fathers. Gall cwsmeriaid sydd ag ymholiadau ehangach na chynhaliaeth plant gael eu cyfeirio at gyrff fel Relate, Canolfannau Cyngor ar Bopeth, Community Legal Action and Refuge.

Ewch ir wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant.