Beth yw'r Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant?
Y Comisiwn yw'r Corff Cyhoeddus Anadrannol newydd a sefydlwyd i fod yn gyfrifol am y system cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.
Opsiynau Cynhaliaeth Plant
Gwasanaeth newydd a diduedd, wedi ei sefydlu i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth i rieni allu gwneud dewisiadau am drefnu cynhaliaeth plant (preifat neu statudol) er mwyn i'r trefniadau hynny weddu orau i'w hamgylchiadau.
Newyddion
Cynlluniau Corfforaethol/Busnes
Mae'r Cynllun corfforaethol tair blynedd yn egluro'r weledigaeth ar gyfer y cam nesaf i ddiwygio'r system cynhaliaeth plant. Mae'r Cynllun busnes yn rhoi manylion am y flwyddyn gyntaf.
Edrychwch ar y cynlluniauNewid cynhaliaeth plant
Mae'r system newydd yn anelu at sicrhau y bydd rhieni sy'n byw ar wahôn i'w plant yn deall eu cyfrifoldebau ac yn cymryd camau priodol i ddarparu ar eu cyfer yn ariannol.
Mae mwy o ddewis ar gael i rieni sy'n cael budd-daliadau ac mae newidiadau i sut y bydd taliadau yn effeithio ar fudd-daliadau hefyd. Bydd hyn yn helpu i gael mwy o arian yn llifo at y rhai sydd ei angen fwyaf.
Cynigir gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn i rieni allu trefnu cynhaliaeth, bydd hyn yn eu helpu i ddewis y trefniadau (preifat neu statudol) fydd yn gweddu orau i'w hamgylchiadau.
Y newidiadau