Cynlluniau cynhaliaeth presennol
Bydd y ddau gynllun sydd eisoes yn bodoli yn dal i gael eu gweithredu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant ar gyfer cwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd.
Bydd y Comisiwn yn parhau i ddatblygu'r cynlluniau ac mae wedi cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gyflawni blwyddyn olaf y Cynllun Gwella Gweithredol. Unwaith bydd hyn wedi ei gwblhau, bydd y Comisiwn yn parhau i wellar ddau gynllun statudol am weddill eu bodolaeth.
Bydd gwell pwerau gorfodi yn cael eu cyflwyno yn 2009/10 a'r cynllun 'incwm gros' newydd yn cael ei gyflwyno o 2011 ymlaen. Bydd cleientiaid yr Asiantaeth Cynnal Plant sydd ar y ddau gynllun presennol yn cael eu cynorthwyo i naill ai wneud cais i'r cynllun newydd neu wneud cytundeb teuluol. Bwriedir ir broses hon gymryd tair blynedd.
Hyd at yr adeg pan fydd y cynllun 'incwm gros' yn cael ei gyflwyno, bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn parhau i gyfrifo'r lefel o gynhaliaeth sy'n daladwy ac yn casglu a gorfodi taliadau.
Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau presennol, ewch i wefan y CSA.
