Newidiadau i gynhaliaeth plant
Newidiadau i gynhaliaeth plant
Mae'r system cynhaliaeth plant newydd i gyd yn ymwneud â sicrhau bod rhieni sy'n byw ar wahân yn deall eu cyfrifoldebau ac yn cymryd y camau priodol i ddarparu'n ariannol ar gyfer eu plant. Sefydlwyd Opsiynau Cynhaliaeth Plant i ddarparu gwybodaeth a chymorth i rieni allu dewis y trefniad cynhaliaeth plant sy'n gweddu orau iw hamgylchiadau.
Disodlodd y Ddeddf Cynnal Plant a Thaliadau Eraill yr angen ar bobl sy'n cael budd-daliadau i ddefnyddio'r Asiantaeth Cynnal Plant. Ers Hydref 2008, mae pob rhiant wedi cael yr hawl i ddewis rhwng trefniant preifat neu statudol, yn unol â'u hamgylchiadau.
Hefyd ers Hydref 2008, mae'r lefel diystyru budd-daliadau wedi cael ei gynyddu. Mae rhieni sy'n brif ofalwyr dyddiol y plentyn ac sy'n cael budd-daliadau yn awr yn gallu cadw hyd at £20 yr wythnos o unrhyw daliadau cynhaliaeth plant cyn i hyn effeithio ar eu budd-daliadau. Mae hyn yn galluogi mwy o arian i lifo i deuluoedd sydd ar incwm isel.
O Ebrill 2010, bydd cynhaliaeth plant yn cael ei diystyru'n llawn wrth gyfrifo'r holl fudd-daliadau diweithdra. Bydd hyn yn galluogi'r rhieni sydd Ċ phrif ofal dyddiol am eu plant, ble telir cynhaliaeth plant, i gadw pob ceiniog o'u taliadau cynhaliaeth plant.
Mae'r Ddeddf Cynnal Plant a Thaliadau Eraill hefyd yn sefydlu pwerau casglu newydd a gwell fydd yn ategur pwerau sydd gan yr Asiantaeth yn barod. Bydd y pwerau newydd hyn yn dod i rym o 2009/10 ac yn cael eu defnyddio gan y Comisiwn i sicrhau bod rhieni yn cwrdd â'u cyfrifoldebau ariannol.
O 2011, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi cynllun cynhaliaeth statudol newydd (cynllun 'y dyfodol' yn seiliedig ar incwm gros), wedi'i seilio ar wybodaeth y flwyddyn dreth ddiweddaraf gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Disgwylir y bydd defnyddio gwybodaeth o un ffynhonnell yn unig yn golygu lleihad sylweddol ir amser a gymerir i weithio cynhaliaeth plant allan. Bydd y dyfarniad cynhaliaeth yn sefydlog am flwyddyn oni fydd yr incwm yn amrywio mwy na 25%.
