Strwythur a Chyflogau'r Comisiwn

Mae'r Llywodraeth glymblaid wedi gwneud ymrwymiad clir i gyhoeddi cyflogau gweision sifil uwch neu eu cyfwerthyddion mewn cyrff anadrannol cyhoeddus. Gallwch weld manylion y cyflog bas a delir i'r Comisiynydd a'r Tîm Gweithredol isod, ynghyd â manylion strwythur y sefydliad, swyddogaethau arweinwyr uwch a gwybodaeth goladol am y bobl hynny ar draws y Comisiwn sy'n uniongyrchol atebol i’r arweinwyr uwch.

 

Siartiau cyfundrefnol

Mae’r siartiau cyfundrefnol isod yn dangos llawn ehangder y grŵp o arweinwyr uwch yn y Comisiwn, wedi'i rannu i'w brif unedau busnes gweithredol:

  • YComisynydd a'r Tîm Gweithredol, sy'n rhoi arweiniad strategol a chyfarwyddyd ar gyfer y Comisiwn. Mae'r Cyfarwyddwyr o fewn Adran Weithredol y Comisiwn yn gyfrifol am Adnoddau Dynol, Gwybodaeth a Thechnoleg, Newid a Chyllid a Sicrwydd hefyd yn darparu arbenigedd pennaeth proffesiwn ac arweiniad ar draws y Comisiwn.
  • Adran Weithredol y Comisiwn, sy'n gweithredu fel canolbwynt strategol a chorfforaethol y Comisiwn ac yn datblygu strategaeth y sefydliad, yn sicrhau trefn lywodraethol gorfforaethol effeithiol, yn ymgymryd â'r gwaith o amgylch swyddogaeth y Comisiwn i hyrwyddo cyfrifoldeb ariannol, yn gweithredu'r gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant ac adeiladu cynllun statudol cynhaliaeth plant y dyfodol.
  • Gwasanaethau Corfforaethol, sy'n darparu swyddogaeth weinyddu a chymorth cynhwysfawr i'r Adran Weithredol a'r Asiantaeth Cynnal Plant. Bydd y swyddogaethau hyn hefyd yn cael eu darparu ar gyfer cynllun statudol cynhaliaeth plant y dyfodol ac i unrhyw wasanaethau a ddatblygir gan y Comisiwn yn y dyfodol.
  • Yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA), sy'n gweithredu'r ddau gynllun statudol cynhaliaeth plant presennol.

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant a'r Gwasanaethau Corfforaethol yn gweithredu o fewn strwythur graddio draddodiadol y Gwasanaeth Sifil. Mae unigolion tu fewn i'r Gwasanaethau Corfforaethol a drosglwyddodd o'r Asiantaeth Cynnal Plant hefyd yn gweithredu o fewn y strwythur graddio hwn.

Mae’r siartiau cyfundrefnol hefyd yn dangos yr amrediad cyflog cenedlaethol i bobl o fewn strwythur graddio draddodiadol y Gwasanaeth Sifil. Fodd bynnag, o fewn pob gradd mae amrywiadau er mwyn adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol neu i gydnabod sgiliau arbenigol. Gallwch gael manylion llawn lleiafswm ac uchafswm bob gradd yn Lleiafswm ac uchafswm fesul gradd.

Fodd bynnag, i'r rheini a gafodd eu recriwtio'n allanol, mae Adran Weithredol y Comisiwn yn gweithredu pedair ystod eang, wedi'i seilio ar gyfraddau cyflog y farchnad yn hytrach na'n seiliedig ar gyfraddau gradd. Gan nad oes graddau, nid oes unrhyw ddisgwyliad i symud i fyny, oni bai am symudiad yn erbyn y farchnad. Ar y sail yma, nid oes unrhyw leiafswm nac uchafswm gradd wedi eu gosod allan ar y siartiau cyfundrefnol yn erbyn swyddogaethau ble recriwtiwyd yn allanol.

Fframweithiau’r Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant - 30 Mehefin 2010

 

Cyflogau arweinwyr uwch y Comisiwn

Mae'r Comisiwn yn cyflogi dros 8,000 o bobl ac mae cyflog eu pobl uwch yn adlewyrchu'r awydd i ddenu a chadw'r gallu gorau wrth wynebu cystadleuaeth o sectorau eraill. Mae hyn yn sicrhau ei fod yn parhau i roi’r gorau bosib i blant ledled y wlad.

Dangosir bandiau cyflogau bas ar gyfer y Comisynydd a'r Tîm Gweithredol mewn £5,000.

Cyflogau uwch-swyddogion y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant - 30 Mehefin 2010

Cewch wybodaeth lawn ynglŷn â chyflogau adrannau eraill o'r llywodraeth a chyrff anadrannol cyhoeddus yn data.gov.uk.

 

Swyddi staff uwch

Mae'r tabl hwn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â'r swyddi o fewn y grŵp arweinwyr uwch, gan gynnwys disgrifiad byr o bob rôl.

Hefyd, dangosir cyfanswm y gost cyflog bas ar gyfer pob gweithiwr sy'n atebol i aelod o'r arweinwyr uwch. Mae cyfanswm y gost yma yn cynnwys cyflog bas aelodau o'r grŵp arweinwyr uwch. Yn unol â chyfarwyddiadau Swyddfa'r Cabinet, ble mae llai na pum gweithiwr yn atebol i aelod o'r grŵp arweinwyr uwch, talgrynnir cyfanswm y gost cyflog bas i'r £100,000 agosaf.

Ble mae'r golofn 'Cost cyflog staff sy'n atebol' yn wag, mae hwn yn dynodi naill ai nad oes unrhyw staff yn uniongyrchol atebol i’r arweinydd uwch neu fod staff yn atebol i swyddi eraill yn y tabl.

Swyddi arweinwyr uwch y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant - 30 Mehefin 2010

 

Staff is ar gyfartaledd ag Amser Llawn (FTE)

Mae'r tabl hwn yn darparu'r cyfanswm ar gyfartaledd ag Amser Llawn (FTE) i bob gradd sydd yn y pen draw yn atebol i aelod o'r grŵp arweinwyr uwch (a ddangosir yn y maes 'yn atebol i Aelod Uwch o'r Gwasanaeth Sifil').

Mewn perthynas â'r lleiafswm ac uchafswm gradd cyflog mae gan sawl gradd safonol yn y gwasanaeth sifil amrywiadau mewn lleiafswm ac uchafswm y radd i adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol yn Llundain neu i gydnabod sgiliau arbenigol. Gallwch gael manylion llawn lleiafswm gradd ac uchafswm gradd yn Lleiafswm ac uchafswm gradd.

Fel gyda siartiau cyfundrefnol uchod, nid oes lleiafswm nac uchafswm gradd ar gyfer swyddogaethau a recriwtiwyd yn allanol ble mae tâl yn seiliedig ar gyfraddau tâl y farchnad.

Manylion staff is y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant - 30 Mehefin 2010