Pobl allweddol

Mae'r Comisiwn yn cynnwys Cadeirydd; Comisiynydd; a Chyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol. Eu swyddogaethau fydd sefydlu ac arwain amcanion strategol y Comisiwn.

 

Janet Paraskeva

Cadeirydd

Roedd Janet yn Brif Weithredwr Cymdeithas y Cyfreithwyr o 2000 i 2006. Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr dros Loegr i Fwrdd Elusennau'r Lotri Cenedlaethol. Mae ei hapwyntiadau blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid ac Archwilydd Ysgolion EM.

 

Stephen Geraghty

Comisiynydd

Roedd Stephen eisoes yn Brif Weithredwr yr Asiantaeth Cynnal Plant, ble bu gwelliant sylweddol i berfformiad y sefydliad o dan ei arweiniad. Cyn hynny, roedd Stephen yn Rheolwr Gyfarwyddwr dros nifer o gwmnïau'r Direct Line Group ac roedd yn ddeiliad ar nifer o swyddi cyfarwyddo dros amryw o gwmnïau gwasanaethau ariannol.