Amdanom ni

Y Comisiwn yw'r Corff Cyhoeddus Anadrannol a sefydlwyd i gymryd cyfrifoldeb am y system cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.

Prif amcan y Comisiwn yw cynyddu'r nifer o drefniadau cynhaliaeth plant effeithiol sydd mewn grym ar gyfer plant sy'n byw ar wahân i naill ai un neu'r ddau riant. Gall y rhain gael eu trefnu yn breifat neu drwy'r cynllun statudol.

Yn ystod 2008, dechreuodd y Comisiwn gynnig gwybodaeth a chymorth ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i rieni ar gyfer cynhaliaeth plant. Bydd y Comisiwn hefyd yn darparu gwasanaeth statudol cynhaliaeth plant effeithlon gyda phrosesau asesu, casglu a gorfodi gwell. Cyflwynir y pwerau gorfodi newydd o 2009/10 ymlaen. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau y bydd rhieni yn cymryd cyfrifoldeb am ddarparu cymorth ariannol i'w plant.

Mae'r Comisiwn yn gweithredu hyd braich o'r Llywodraeth, sy'n galluogi'r Comisiwn i elwa ar ystod eang o arbenigrwydd or sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Mae'r Comisiwn yn atebol am ei berfformiad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r berthynas rhwng y Comisiwn a'r Adran Gwaith a Phensiynau, ewch i'r Dogfen Fframwaith.