Amdanom ni
Tïm Gweithredol
TBydd Tïm Gweithredol y Comisiwn yn arwain pobl ac adnoddau'r Comisiwn i gwrdd Ċ'r perfformiad gofynnol er mwyn cwrdd Ċ'u targedau. Yn ogystal Ċ'r Comisiynydd a'r cyfarwyddwyr lefel y bwrdd, mae'r tïm gweithredol yn cynnwys:
Simon McKinnon
Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth
Mae Simon yn gyfrifol am ddiffinio a dosbarthu strategaethau technoleg gwybodaeth sy'n gweddu orau gydag amcanion y Comisiwn. Yn fwyaf diweddar roedd yn Gyfarwyddwr Technoleg a Gweithredu i OAG, cwmni byd-eang syn rheoli cynnwys. Yn flaenorol, bu Simon yn Gyfarwyddwr TG ar gyfer dau gwmni sefydlu busnesau, StepStone a Vertical*I.
Ian Pavey
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Cyn ymuno â'r Asiantaeth Cynnal Plant ym mis Mai 2006, roedd Ian yn Gyfarwyddwr AD gyda chwmni busnes cynhyrchu mawr a ariennir drwy ecwiti preifat. Roedd ei rôl yn cynnwys polisi AD, buddion gweithwyr, tâl gweithredwyr a recriwtio gweithredwyr. Mae ei brofiad blaenorol yn cynnwys swyddogaethau Adnoddau Dynol a swyddogaethau gweithredol mewn sawl corff cynhyrchu a gwasanaethu.
Ian Wright
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Mae Ian yn gyfrifol am arwain y ddarpariaeth Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer y Comisiwn Gweithredol, yr Asiantaeth Cynnal Plant ac unrhyw gorff a grêir o fewn y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'r swydd yn cwmpasu Cymorth TG, Gwasanaethau Ariannol a Rheoli Ystadau. Ar ôl gyrfa mewn Gwasanaethau Ariannol a Thechnoleg Gwybodaeth ymunodd Ian â'r Asiantaeth yn 2007 fel Cyfarwyddwr Rhaglen ac ar ôl hynny fe gymerodd swydd y Cyfarwyddwr TG.
