Amdanom ni
Pwerau gorfodi
Bydd gan y gwasanaeth cynhaliaeth statudol (a weithredir ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant) ystod o bwerau a fydd yn ei alluogi i gymryd camau cadarn i sicrhau bod rhieni yn cwrdd â'u cyfrifoldebau ariannol.
Bydd yn parhau i allu defnyddior holl ddulliau gweithio sydd ar gael ar hyn o bryd i'r Asiantaeth Cynnal Plant. Mae'r rhain yn cynnwys gorchmynion didynnu o enillion, gorchmynion atebolrwydd, beilïaid, gorchmynion dyled trydydd parti, codi taliadau yn erbyn eiddo, gorchmynion gwerthu eiddo, gwahardd trwyddedau gyrru a charcharu.
Yn ogystal Ċ phwerau presennol yr Asiantaeth Cynnal Plant, bydd gan y Comisiwn ddulliau cosbi ychwanegol fydd yn ei alluogi i sicrhau bod rhieni yn cwrdd Ċu cyfrifoldebau ariannol. Mae'r mesurau newydd yn cynnwys:
- gwaredu'r angen i orfod gwneud cais i'r llys am Orchymyn Atebolrwydd;
- didynnu taliadau am gynhaliaeth ac/neu ôl-ddyledion o gyfrifon banc, heb orfod gwneud cais trwy'r llysoedd;
- gwneud cais i'r llys am waharddiad rhag dal neu gael pasport;
- gwneud cais i'r llys am gyrffyw;
- adennill ôl-ddyledion o ystadau pobl sydd wedi marw.
Trwy gyflwyno gorchmynion atebolrwydd gweinyddol a chael gwared ar yr angen i ddefnyddio'r llysoedd, gall y Comisiwn gyflymu a chynyddur nifer o gamau gorfodi mae'n ei gymryd yn erbyn rhieni a dyledwyr syn gwrthod cydweithredu.
Bydd y Comisiwn yn gallu defnyddio'i bwerau newydd mewn perthynas Ċ dyledion a gronnwyd o dan y ddau gynllun presennol, yn ogystal ô'r 'cynllun gros' a fwriedir ar gyfer y dyfodol. Bydd y cynllun gros yn cael ei sefydlu o 2011 ymlaen.
Fel rhan or 'cynllun gros' newydd, bydd gan y Comisiwn drefniadau newydd gyda chyrff Llywodraethol eraill, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, er mwyn cadarnhau incwm rhieni ar sail gwybodaeth y flwyddyn dreth ddiweddaraf. Gosodir y cyfrifiad hwn am flwyddyn oni fydd yr incwm yn amrywio mwy na 25%.
Bydd y Comisiwn yn parhau i erlid dyledwyr cynhaliaeth plant. Bydd yn adeiladu ar weithgareddaur Asiantaeth Cynnal Plant ac yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael yn erbyn rheini sy'n ceisio osgoi talu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio asiantaethau cyfeirio credyd, beilïaid a chasglwyr dyledion, i gael mwy o arian i fwy o blant.
